Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2016
Amser: 09.16 -
11.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3673
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC Michelle Brown AC (yn lle Mark Reckless AC) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 1MB) Gweld fel HTML (253KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Reckless; dirprwyodd Michelle Brown ar ei ran.
O dan Reol Sefydlog 17.24, datganodd Llyr Gruffydd AC fuddiant perthnasol, sef ei fod yn llywodraethwr ysgol. Datganodd Hefin David ei fod yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a bod gan Goleg Cymraeg safle yn y brifysgol.
Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:
Mwy o fanylion am yr ymchwil annibynnol gan Brifysgol Caerdydd ar y grant amddifadedd disgyblion.
Rhaglen gwerthuso Her Ysgolion Cymru, pan fydd ar gael.
Nodyn am ddyfodol gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru.
Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:
Y wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni ar gyfer cyhoeddi'r cynlluniau 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu gofal plant a blynyddoedd cynnar.
Nodyn am gyhoeddi asesiad o'r effaith ar hawliau plant (CRIA).
Nodwyd y papur.
Derbyniwyd y cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru ac i ymgynghori â rhanddeiliaid ar eu blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad.